Image of Sam
Image of Sam

Sam Egelstaff wedi’i dewis yn Ymgeisydd Llafur Ynys Môn

Mae Sam Egelstaff, athrawes o Lanrwst, wedi’i dewis i sefyll dros Lafur yn etholiad y Senedd wrth iddynt anelu at gipio’r sedd gan Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru.
Yn y gorffennol, mae Sam wedi chwarae rôl flaenllaw mewn ymgyrchoedd hynod lwyddiannus ar ystod o faterion, o bleidleisiau i bobl ifanc 16 a 17 oed i gyllid uwch i ferched sy’n ffoaduriaid yn ystod pandemig COVID a darpariaeth cynhyrchion mislif am ddim mewn ysgolion.
Mae hi’n Sylfaenydd a Chadeirydd Grŵp Gweithredu Llifogydd Llanrwst ac wedi ymddangos ar deledu a radio cenedlaethol ar ran dioddefwyr llifogydd.
Mae Sam yn briod gyda thri o blant ac yn dysgu Cymraeg. Defnyddia ei Chymraeg lefel ganolradd gartref ac yn y dosbarth, ac mae wedi cyflawni ei TGAU Cymraeg (ail iaith).
Dywedodd, “Dros y ddegawd diwethaf mae pobl Ynys Môn wedi clywed nifer o addewidion am brosiectau a swyddi newydd, ond ychydig iawn sydd wedi digwydd mewn gwirionedd.
“Nawr mae Brexit caled y Torïaid yn cael effaith ar Borthladd Caergybi a rhai busnesau lleol pwysig, gan gynnwys y rheiny yn y diwydiant pysgod cregyn.
“Mae Ynys Môn yn gylchred o amddifadedd gwledig, lle mae pobl ifanc yn gadael yr ynys ac yn mynd â’u sgiliau a’u gobeithion gyda nhw.
“Rwyf wedi gweithio gyda phobl ifanc a hŷn ers ugain mlynedd, yn eu helpu nhw i ddysgu sgiliau newydd a datblygu eu gobeithion am ddyfodol gwell gyda phrosiectau swyddi cryfach.
“Nawr mae’n rhaid i ni wneud popeth yn ein gallu i fanteisio ar y cyfleoedd cyflogaeth sy’n cael eu creu drwy fuddsoddiad cyhoeddus a phreifat mewn Parthau Menter ac yn y diwydiannau ynni gwyrdd cynaliadwy newydd a fydd yn cael eu creu gan ymdrech Llywodraeth Lafur Cymru am Gymru Sero Net 2050.
“Mae angen i ni uchafu datblygiad sgiliau, prentisiaethau a swyddi drwy fuddsoddi mewn trafnidiaeth carbon isel, ynni a thai, ehangu porthladd Caergybi a phrosiectau eraill sydd â gwir ddyfodol.
“A rhaid i ni sicrhau bod cyflogeion, yr hunangyflogeion, meicrofusnesau, a mentrau bach a chanolig yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt wrth i ni ddod o bandemig COVID.
“Fel hyn yr ydym yn cyflawni hwb economaidd go iawn i’n hynys a rhoi dyfodol disgleiriach i bobl ifanc sy’n cael eu magu ar Ynys Môn i edrych ymlaen ato.”

DIWEDD

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Sam Egelstaff – ffôn symudol 07840 348380; e-bost: sam4ynysmon@gmail.com

Link to Instagram Link to Twitter Link to YouTube Link to Facebook Link to LinkedIn Link to Snapchat Close Fax Website Location Phone Email Calendar Building Search